Tudalen:Coelion Cymru.pdf/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei godi a'i agor; â'r dafadennau ar ddwylo hwnnw. (d) Y mae personau arbennig a fedr eu swyno ymaith trwy dynnu eu dwylo trostynt. Yn 1931 cyfarfûm yr un adeg ac ar yr un aelwyd â phedwar person a dystiai iddynt golli dafadennau oddi ar eu dwylo trwy'r pedwar modd a nodais. Defnyddiodd pob un o'r pedwar fodd gwahanol i'r lleill. (4) Tynnu drain 0 gnawd. Defnyddier cŵyr crydd. (5) Gwella Dolur Gwddf. (a) Tafell o gig moch bras wedi ei rwymo yn dynn am y gwddf. (b) Gwisgo am y gwddf hen hosan wlân newydd ei thynnu oddi ar y troed, a'i throi y tu chwith allan. (6) Annwyd Trwm. Llaeth enwyn wedi ei ferwi, ac ynddo rosmari ac ychydig driagl du. (7) Atal Gwaed 0 Archoll. (a) Rhodder ar yr archoll damaid o faco siag wedi ei gnoi. (b) Taener gwe'r pryf copyn ar yr archoll. (8) Gwella Crydcymalau. Carier darn bychan o nytmeg yn y llogell.