Tudalen:Coelion Cymru.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XI
HEN ARFERION

Nid oes ond ychydig o'r hen arferion wedi goroesi'r cyfnewidiadau ym mywyd cymdeithasol Cymru. Gresyn hefyd farw o rai ohonynt, oblegid o edrych o'r pellter hawdd tybio bod llawer o swyn a pheth budd ynddynt. Nid oes i amaethyddiaeth heddiw y bri a fu iddi. Y mae'n wir mai bywyd caled oedd ar y fferm gynt, ond yr oedd iddo arferion difyr a llawer o fwyniant iach. Bu farw'r hen arferion tan ddylanwad golau gwell ac yn sŵn peiriannau a dyfodiad estroniaid tros glawdd Offa. Un ddefod a lynodd yn hir ac a fu farw o raid ydoedd—

Y GASEG BEN FEDI. Perthynai i'r cynhaeaf trwy Gymru ei ddefodau a'i wleddoedd. Yng Ngoledd Cymru yn gyffredin ceid gwleddoedd a elwid " Boddi'r Cynhaeaf." Yn Sir Ddinbych gelwid y tusw olaf o ŷd ar gaeau fferm yn Gaseg Fedi, ac yn Sir Gaernarfon gelwid ef Y Wrach. Eithr tybiaf oddi wrth yr hanes a geir i fri mwy fod ar y Gaseg Ben Fedi yn siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin nag yn unman arall. Ni fu'r ddefod farw'n llwyr yn Sir Aberteifi hyd yn gymharol ddiweddar. Dywaid y Parchedig Fred Jones, B.A., B.D., wrthyf, iddo ef pan oedd yn hogyn, lai na hanner can mlynedd yn ôl, gystadlu