Tudalen:Coelion Cymru.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rannau'r un sir hyd yn oed. Yng ngogledd Ceredigion byddai raid i'r sawl a dorrai'r tusw ei ddwyn i fferm yn y gymdogaeth a ddigwyddai fod " ar ôl gyda'r cynhaeaf," a'i daflu i'r maes y gweithid ynddo ar y pryd. Ystyrid hyn yn sarhad mawr, a rhaid fyddai i'r troseddwr ddianc am ei einioes â chrymanau'r holl fedelwyr yn ei ddilyn.

DEFODAU PRIODAS. Person pwysig ynglŷn â phriodas gynt oedd y Gwahoddwr. Ei waith ef oedd tramwy'r gymdogaeth tua thair wythnos cyn y briodas i wahodd cyfeillion y pâr ieuanc i dalu eu "pwythion." Yn gyffredin byddai'r Gwahoddwr yn ŵr tafodrydd a doniol, i'r diben o ennill clust ac ewyllys y gwrandawyr. Cariai yn ei law ffon hir—gwialen ei swydd—wedi ei haddurno â rubanau o bob lliw, ac ar ei ben gwisgai rubanau neu flodau. Ai i dŷ heb guro, ac yna taro tri ergyd trwm â'i wialen ar lawr yr ystafell, ac o gael distawrwydd a sylw adroddai gân neu rigwm tebyg i'r un a wnaeth Daniel Ddu o Geredigion at y pwrpas, sy'n cynnwys y penillion a ganlyn:

Dydd da i chwi bobol, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan Wahoddwr â chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch gennyf fy neges yn gynnes ar ganiad.
Ymdrechwch i ddala i fyny, yn ddilys,
Bawb oll yr hen gwstwm, nid yw yn rhy gostus,
Sef rhoddi rhyw sylltach, rhai 'nôl eu cysylltu,
E fydd y gwŷr ifainc yn foddgar o'u meddu.