Wedi ymborthi a chael digonedd, agorai'r pâr ieuanc lyfr y pwythion," a chofnodi'n fanwl y rhoddion a dderbyniwyd. Ymdroai'r gwahoddedigion yn y tŷ ac o'i gwmpas yn eu mwynhau eu hunain hyd oriau hwyr.
Yr oedd priodi yn waith pwysig ac urddasol gynt cyn dyfod priodas baganaidd "yr offis." Yn lled fore byddai'r mwynwyr yn barod â'u tyllau yn y graig, ac eraill â'u gynnau. Cyn hir gwelid gorymdaith drefnus, dau a dau, fel angladd ym Morgannwg, yn symud yn bwyllus i gyfeiriad yr addoldy. Yna saethu mawr i darfu ysbrydion drwg rhag dial ar y ddeuddyn ieuainc a'u drygu ddydd eu llawenydd. Yn ystod y priodi âi'r saethwyr i'r dafarn i wlychu eu gwefusau.—Wel, yr oedd angen ar ôl tanio cymaint, ac yr oedd y ddiod yn rhad! Pan ddeuai'r briodas o'r addoldy, ni châi fyned trwy'r glwyd, oblegid yno byddai nifer o bobl ieuainc yn dal rhaff gref, ac nid oedd agorfa oni thelid y doll. Ychydig yn nes i'r cartref byddem ninnau'r plant â chwyntyn— rhaff eto—a thelid toll i ninnau. Nid yw'r arfer hon wedi llwyr farw. Diwedd 1936, gwelais briodas yn y pentref hwn—priodas fodur— a defnyddiwyd y cwyntyn.
DEFODAU CLADDU. Y mae'n ddiamau i rai o hen arferion y Cymry ynglŷn â chladdu'r meirw ddyfod i lawr o'u bywyd Pabyddol. Hyd yn gymharol ddiweddar, bu Yr Wylnos'-gwylio'r marw noson cyn y claddu—yn boblogaidd trwy