bob rhan o'r wlad, ac anodd meddwl amdani heb feddwl hefyd am Wake y Pabyddion. Yr oedd peth o ddelw'r Wake ar yr Wylnos, eithr ni pherthynai iddi'r difyrrwch ysgafn a oedd ynglŷn â'r Wake. Gŵyl gwbl grefyddol oedd yr Wylnos y gwybûm i amdani.
Yn fy nyddiau bore i ni chleddid neb, bach na mawr, heb wylnos iddo. Prynhawn y dydd cyn y claddu, ceid te yn y tŷ galar yn gyfle i gyfeillion dalu'r pwyth yn ôl' trwy adael darn o arian ar y bwrdd. Yn gyffredin gwragedd a fyddai yn y te, ac ni welid yno neb oni byddai arni 'bwyth.' Yna am saith o'r gloch dechreuai'r Wylnos. Arweiniai'r gweinidog a galw ar bersonau cymwys i weddïo. Cenid emynau angladdol, ac weithiau llefarai'r gweinidog yntau air o gysur wrth y galarwyr. Ar y terfyn dynesai'r mwyafrif at yr arch, ac edrych ar wyneb y marw. Nid oedd hyn yn rhan bendant o'r cyfarfod, ond yr oedd ei esgeuluso yn peri tramgwydd, mwy na pheidio, i rai o'r perthynasau. Yr oedd diben yr Wylnos ar y dechrau yn un gwir deilwng, sef cysuro a nerthu'r galarwyr, a rhybuddio'r gweddill; eithr collodd ei phrif ddiben ac aed i edrych arni fel math o wrogaeth i'r sawl a gleddid. Pan fu farw fy mam, awgrymais i'm chwaer hynaf mai gwell fyddai peidio â chael Gwylnos. "Peidio â chael Gwylnos?" meddai. " A wyt ti yn llai dy barch i mam nag ydi pobl eraill i'w perthynasau? Peidio â chael Gwylnos yn wir!!" Erbyn hyn y mae'r Wylnos hithau wedi marw.