Tudalen:Coelion Cymru.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efallai nad yw sawyr Pabyddiaeth yn drymach ar ddim yn ein bywyd cyhoeddus nag ar yr hyn a elwir yn "Offrwm i'r Marw." Bu'r arfer hon mewn bri trwy'r wlad am gannoedd o flynyddoedd wedi iddi, trwy orchymyn brenin Lloegr, beidio â bod yn Babyddol o ran ei chrefydd. Cyn belled ag y gwyddom, nid yw'r ddefod ar arfer yn awr ond mewn rhannau o Ogledd Cymru. Diben gwreiddiol yr 'offrwm' ydoedd cydnabyddiaeth neu dâl i'r offeiriad am weddïo dros enaid y sawl a oedd newydd fyned i'r Purdan. Yna yn raddol daeth y Protestaniaid i'w ystyried yn dâl i'r offeiriad a'r clochydd am eu gwasanaeth yn y claddu.

Fel hyn y gweithredid. Ar derfyn y gwasanaeth yn yr eglwys, dynesai'r perthynasau, a'r galarwyr eraill yn dilyn, at yr allor, a rhoddi mewn blwch ddarn o arian neu bres. Ar lan y bedd, ar ôl taflu iddo ychydig bridd, daliai'r clochydd ei raw, a rhoddai pob un ei gyfran arni yn dâl am dorri'r bedd. Cyhoeddid yn yr eglwys ac yn y fynwent y symiau a dderbyniasid, a diolchid i'r cyfranwyr.

Ym mis Mawrth, 1937, cefais gan Mr. David F. Jones, Llanrhaeadr, hanes y ddefod fel y gweinyddir hi yn bresennol yn ei ardal ef. "Yr arferiad yn yr eglwys blwyf yw rhoi'r blwch casglu ar yr allor, ac ar derfyn y gwasanaeth i bawb a ddymuna offrymu fyned "in single file" a chyflwyno'i rodd. Y teulu yn ddieithriad a offryma gyntaf, a'r gynulleidfa yn