dilyn. Hyd yn gymharol ddiweddar, ar derfyn yr offrymu yn yr eglwys, âi'r clochydd at yr allor i gyfrif swm yr offrwm, a dywedyd yn debyg i hyn, 'Swm yr offrwm yw £3 10s 6c. Diolch i bawb.' Yn fuan wedi ei ddyfod i Lanrhaeadr, rhoddodd y Ficer presennol derfyn ar y cyhoeddi am na farnai ef yn weddus. Ar derfyn y gwasanaeth yn y fynwent offrymir i'r clochydd, pryd y deil flwch (nid rhaw) i dderbyn yr offrwm at draul torri'r bedd. Ni ddefnyddir y rhaw yma, ond gwn fod y dull hwnnw yn bod yn Hirnant, Llanarmon M.M., Pennant Melangell, Penybont Fawr, Llangadwaladr, Llansilin a Llangedwyn."
BEDYDDIO AR YR ARCH. Dywaid y Western Mail, Mai 25, 1937, fod bedyddio baban ar arch ei fam yn un o ddefodau Cymru yn yr oesoedd canol, a bod traddodiad mai felly y bedyddiwyd Dafydd ap Gwilym pan fu farw Ardudfyl ei fam.
Nid yw hon yn arfer gyffredin iawn, ond ceir hi yma a thraw trwy Gymru. Gwelais gyflawni'r ddefod yn Aberpennar (Mountain Ash), Morgannwg, tua hanner can mlynedd yn ôl. Buasai farw priod ieuanc Morgan Morgans, a oedd yn gyfaill imi, a dydd y claddu daethpwyd â'r arch i'r ffordd gyferbyn â drws y tŷ. Rhoddwyd y baban wythnos oed ym mreichiau'r Parchedig J. E. Roberts, gweinidog y Wesleaid, a bedyddiodd yntau hi â dŵr o gawg a oedd ar gaead arch y fam. Gwelais hefyd gyhoeddi yn y South Wales Daily