News, Medi 2, 1911, hanes cyffelyb o Abertawe. Buasai farw hen wraig, ac yn ôl ei dymuniad, bedyddiwyd ei hwyres fach ar ei harch. Ceir hefyd enghreifftiau o'r arfer yng Ngogledd Cymru. "Ym mis Rhagfyr 1861, bu farw Maria Bellis, Llygain Uchaf, gerllaw yr Wyddgrug. Dydd ei chladdedigaeth daethpwyd â'r arch o'r tŷ a'i gosod ar ddwy gadair, a bedyddiodd y Parchedig William Pierce, Methodus Calfinaidd, ei baban a oedd yn ymyl deuddeg mis oed â dŵr o fasn a oedd ar yr arch."[1]
ARFERION DIWEDD A DECHRAU BLWYDDYN. Hen arfer ddiddrwg a diddan ydoedd Gweithio Cyflaith nos cyn y Nadolig. Cyfarfyddai amryw fechgyn a merched dipyn yn hwyr ar y nos mewn tŷ penodedig. Wedi i bawb gyrraedd a chael ynghyd y defnyddiau angenrheidiol, rhoddid ar y tân grochan o faint cymedrol ag ynddo swm da o driagl du a siwgr, ac ar ddechrau'r berwi byddai'n rhaid ei droi â llwy bwrpasol, a chadw'r cyffro yn ddiatal i ochel blas llosg. Fel yr âi'r berwi ymlaen, safai un gerllaw â chwpan ag ynddo ddŵr oer, a chodi yn awr ac eilwaith ychydig o gynnwys y crochan a'i roddi yn y dŵr. Pan galedai'r trwyth yn y dŵr, yr oedd yn bryd ei dynnu oddi ar y tân. Yna arllwysid ef i ddysgl fawr neu ar lechfaen las a glân wedi ei hiro ag ymenyn. Tra byddai'r defnydd yn dwym tynnid a thylinid ef oni felynai ychydig a bod yn barod i'w rannu. Nid
- ↑ Llyfr- Gen. Cym. Llsgr. 5653