casglu ac yn canu eu mân ganeuon. Ofnaf mai anadl einioes casglu'r oes hon ydyw'r elfen gardota yn unig, eithr gwelir oddi wrth y canu mai angen y tlawd oedd achos y casglu calennig gynt.
Dydd Calan cynta'r flwyddyn, 'Rwy'n dyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara 'chaws.
Mi godais heddiw mas o'm tŷ, A'm cwd a'm pastwn gyda mi, A dyma'm neges ar eich traws, Sef llanw'r cwd â bara' chaws.
Calennig wyf yn 'mofyn, Ddydd Calan, ddechrau'r flwyddyn; A bendith byth fo yn eich tŷ, Os tycia im gael tocyn.
Mae heddiw yn ddydd Calan, I ddyfod ar eich traws, I 'mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara' chaws; Dewch at y drws yn serchog, Heb newid dim o'ch gwedd; Cyn daw dydd Calan eto Bydd llawer yn y bedd. [1]
HELA'R DRYW. Bu hela'r dryw mewn bri yn Iwerddon a Manaw a Chernyw yn ogystal ag yng Nghymru. Efallai i'r arfer barhau yn hwy yn Sir Benfro nag mewn un rhan arall o'r wlad. Tybiaf hyn oherwydd imi adnabod hen ŵr gwan ei feddwl
yn y sir honno a ddug y ddefod o ddyddiau'i
- ↑ Llyfr. Gen. Cym., Llsgr., 5652.