Tudalen:Coelion Cymru.pdf/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

febyd i ddyddiau'i farw yn 1907. Er imi roddi'r hanes eisoes mewn llyfr arall, teimlaf y dylai'r bennod hon ei gynnwys.[1] Ym Mhenfro helid y dryw a'i gludo o ddrws i ddrws wrth gasglu calennig ddyddiau'r Nadolig a'r Calan. Gosodid yr aderyn mewn tŷ bach tua deunaw modfedd o hyd ac wyth o uchder, â dwy ffenestr fach a drws rhyngddynt. Defnydd y tŷ bach ydoedd rhisgl pren derw, a gwisgid ef â rubanau o bob lliw. Ceir Tŷ'r Dryw, a gafwyd o Sir Benfro, yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd. Y mae ym Mhenfro draddodiad bod y dryw yn aderyn pwysig ym mywyd yr hen dderwyddon. I ran y derwydd y disgynnai'r gwaith o benderfynu materion cyfreithiol. Ef a eisteddai mewn barn ar gwerylon a throseddau, ac os amheuid cyfiawnder ei ddedfryd, hysbysai yntau i'r dryw ddatguddio'r gwirionedd iddo, ac yr oedd tystiolaeth y dryw yn safadwy a therfynol. Bob yn ychydig, chwerwodd y werin at y dryw oherwydd tybio mai bradwr ydoedd, ac erlidid ef yn greulon i'w ddifa. O'i ddal, gosodid ef yn y tŷ bach a'i ddwyn o dŷ i dŷ a chanu:

Dryw bach ydy'r gŵr,
Amdano mai 'stẃr;
Mae cwest arno fe
Nos heno 'mhob lle.

Fe ddaliwyd y gwalch
Oedd neithiwr yn falch
Mewn stafell wen deg,
A'i un brawd ar ddeg.


  1. Yr Hen Gyrnol, Evan Isaac, (1935), td. 26-27.