Tudalen:Coelion Cymru.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel os âi un neu ragor o'r Tylwyth i'r tŷ i dorri newyn, neu i olchi baban, y ceid rhodd ar y pentan yn y bore. At hyn y cyfeiria Goronwy Owen yn ei "Gywydd y Cynghorfynt."

Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân.


Credir mewn rhannau o Gymru mai tan y ddaear y mae gwlad y Tylwyth Teg, ac yr eir iddi un ai trwy ogofau ac agennau yn y creigiau, neu trwy lynnoedd. Eithr anaml y gall marwolion ei chyrraedd trwy ddwfr. I lygaid meidrol y mae'r wlad yn fangre pob llawnder ac ysblander a dedwyddwch. Trigle llawenydd ac anfarwoldeb ydyw. Pan ddêl y preswylwyr i'n byd ni, deuant i chwarae a chanu a diddanu dynion. Chwaraeant ar frigau'r grug, a dawnsiant ar flaenau brwyn, a phan derfir hwy, ymguddiant ym mysedd y cŵn, Ni fwytânt na chig na physgod, eithr ffynnant ar fwyd llaeth wedi ei archwaethu â saffrwm y maes. Eto, dywaid rhai y pobant eu hunain fara gwyn a'i fwyta. Yn ôl Myrddin Fardd, rhoddai hen wraig o Abersoch fenthyg ei gradell yn aml iddynt.[1]

Gwelir cylchau'r Tylwyth ym mhob rhan o Gymru. Crwn a hirgrwn ydynt, a cheir hwy fynychaf ar wastadeddau bryniau. Gwelais hwy rai troeon ar fryniau lled uchel, fel Bryn-yr-Arian a edrych i Fae Ceredigion tros Gors Fochno. Ar nos loergan fe'u clywid gynt, ac efallai y clywir

  1. Welsh Folklore Yr Athro T. Gwynn Jones (1930), td. 51-57.