Tudalen:Coelion Cymru.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwy o hyd gan y sawl sy'n ddigon tenau ei glust i ddal seiniau o'r byd anweledig, yn llafarganu gwahodd a chymell i'r cylchau fel hyn:

CÂN Y TYLWYTH TEG.

O'r glaswellt glân a'r rhedyn mân,
Gyfeillion diddan, dewch,
'E ddarfu'r nawn—mae'r lloer yn llawn—
Y nos yn gyflawn gewch;
O'r chwarae sydd ar dwyn y dydd,
I'r dolydd awn ar daith;
Nyni sydd lon, ni chaiff gerbron
Farwolion ran o'n gwaith.

Ysgafn-ddrws pren, llawr glân dan nen,
A'r aelwyd wen yn wir,
Tân golau draw, y dŵr gerllaw,
Yn siriaw'r cylchgrwn clir;
Trwy ofal glân â'ch pibau cân,
Rhowch gyd-erddigan dda,
Pan ddêl y wawr i'r dwyrain fawr,
Diflannu'n awr a wna.

Af yr awr hon lle cwsg yn llon
Farwolion fawr a mân.
Mynegaf 'nawr i'r deg ei gwawr,
Sy'n cadw'r llawr mor lân,
Gan ddweud wrth hon pa bryd gerbron
Y daw ei Heinion hi,
Mewn gwisg nid gau o las diau,
I'w breichiau—mawr ei bri.

Rhowch 'sgubau mân, briallu glân,
A'ch mes i'r loywlan wledd,
Rhydd cnewyll rin da flas diflin,
Melysa'r min fel medd;