Tudalen:Coelion Cymru.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Nôl hyn, yn glau, oll bob yn ddau,
I'r llawr i chwarae awn,
Sain pibau 'nghyd heb lais yn fud,
Cyd-ddawnsio'n hyfryd wnawn.

Pan dorro'r wawr cwyd dyn i lawr
O'i gysglyd awr, 'e ga'
Ei dŷ yn rhydd, tir, praidd a fydd
Wiw ddeunydd iddo'n dda;
Cawn chwarae'n rhydd tra paro'r dydd,
Ar lennydd heulog liw,
Caiff dynol ach ei adeg fach,
A'i fronnau'n iach heb friw.[1]

Perchid y cylchau hyn gymaint fel nad ymyrrid o fwriad â hwy gan na dyn nac anifail. Yn hytrach nag aredig tir â chylchau'r Tylwyth Teg arno, gwell fyddai gan amaethwr gefnu ar ei fferm a byw mewn 'tŷ bach,' oblegid gwybod petai’n troseddu y disgynnai arno felltithion annisgrifiol. Oherwydd yr ofn hwn, nid aflonyddid ar y bodau bach o flwyddyn i flwyddyn, a dawnsient hwythau'n ddibryder a chanu:

Canu, canu trwy y nos,
Dawnsio, dawnsio ar waun y rhos,
Yng ngoleuni'r lleuad dlos,
Hapus ydym ni.

Pawb ohonom sydd yn llon,
Heb un gofid tan ei fron;
Canu, dawnsio ar y ton—
Dedwydd ydym ni.


  1. Hynafion Cymreig, Peter Roberts (wedi ei drosi i'r Gymraeg gan Hugh Hughes) (1823), td. 153-4.