Tudalen:Coelion Cymru.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae storïau’r Tylwyth Teg yn lluosog-ceir cannoedd ohonynt—eithr ni roddaf yn awr namyn detholiad o'r rhai a ddengys wahanol nodweddion eu bywyd. I'r pwrpas hwn, mantais fydd bwrw i baragraff neu ddau y coelion a ddyfalwyd yn eu cylch.

Nid oes wybodaeth sicr am gychwyn y Bobl Fach. Draw ymhell yn niwl tew hen oesoedd y mae eu tarddiad. Credid unwaith yng Nghymru mai eneidiau Derwyddon oeddynt-Derwyddon rhy amherffaith i'r nefoedd a rhy dda i uffern. Credir yn awr mai hen drigolion y wlad yn Oes y Cerrig (Stone Age) ydynt, yn ymguddio mewn ogofau a thyllau rhag eu gweled gan eu gorchfygwyr. Y mae'r gred hon yn un naturiol, oblegid preswylir heddiw lannau Congo, yn Affrica, gan lwythau o gorachod na wyddid eu bod oni ddarganfuwyd hwy ychydig flynyddoedd yn ôl gan Syr Harri Johnston. Ym marn Syr Harri, wedi dyfod pobl oes y meteloedd, tyfodd cnwd o chwedloniaeth y Tylwyth Teg o ddulliau byw ac arferion corachod ogofau a choedwigoedd Ewrop.

Yn eu gwlad gudd a theg hwy priodant, a genir iddynt blant. Ar adeg y geni ceisiant yn aml famaeth o blith dynion. Er eu bod yn garedig a rhadlon, nid ydynt onest bob amser. Lladratant blant y c marwolion,' a gadael yn eu lle blant gwachul y Tylwyth. Lladratant hefyd, weithiau, ferched dynion a'u priodi. Unwaith y cânt fod dynol i'w gwlad, gwnânt bob ymdrech