Tudalen:Coelion Cymru.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w ddarbwyllo i fwyta o'u hymborth, ac o lwyddo disgyn arno hud a'i caethiwa, ac ni ddychwel i blith dynion am flynyddoedd, ac efallai na ddychwel byth. Gwobrwyant ddynion am garedigrwydd, eithr dialant am bob chwilfrydedd i geisio gwybod dirgelion eu bywyd hwy. Gallant eu datguddio eu hunain a diflannu fel y mynnont, a pheri i wrthrychau ymddangos yn gwbl wahanol i'r hyn ydynt, oblegid y maent yn feistri ar ledrith. Y maent hefyd yn anfarwol.[1]

Nid yw'r gred yn y Bobl Fach wedi llwyr farw. Pymtheng mlynedd yn ôl, a mi'n traethu ar lên gwerin ym Methel, Cwm Rheidol, dywedodd y Cadeirydd ar y terfyn ei fod yn ofidus am nad oedd ei frawd, a oedd yn Llundain, yn bresennol i glywed hanes y Tylwyth Teg, oblegid iddo ef, pan breswyliai yn y wlad, eu gweled droeon. Yng Ngorffennaf, 1936, cyfarfûm ym Mangor â boneddiges gymharol ieuanc—heb fod dros ddeg ar hugain-a daerai'n gryf iddi hi a chyfeilles iddi, wrth ddychwelyd o dro yn y wlad, weled clwstwr da o'r Tylwyth yn dawnsio a chwarae ar lain o dir mewn dyffryn. Mor ddiweddar â Medi 1936, rhydd Mr. R. Ll. Lloyd, Liverpool House, Carno, Sir Drefaldwyn, hanes diddorol am a ddigwyddodd y dyddiau hynny yng nghymdogaeth ei gartref. Ar uchaf y bryniau rhwng Carno a Phontdolgoch, ym Maldwyn, y mae tri llyn a elwir Llyn Tarw,

Llyn Mawr, a Llyn Du, a cheir hen draddodiad

  1. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland, Llundain (1891) td. 336.