Tudalen:Coelion Cymru.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod y Tylwyth Teg yn trigo yn amgylchoedd y llynnoedd hyn. Y mae'r llynnoedd mewn man diarffordd, ac anaml yr eir ar eu cyfyl gan neb namyn ambell fugail neu bysgotwr. Ond ddechrau Medi, 1936, ymwelodd Mrs. Edwards, ffermdy Clogiau, ynghyda'i merch Alwyna (16) a dau blentyn i'w brawd, Aneurin (9) a Gwen Davies (12) â Llyn Tarw, a thystiai Mrs. Edwards a'r plant iddynt glywed yno, fin nos, y canu melysaf a glywsant erioed. Er edrych amgylch ogylch a gwrando, ni welwyd neb na chlywed dim ond y canu cyfareddol.[1] Ymwelodd Mr. George Pollard, gohebydd un o bapurau dyddiol Llundain, â'r llynnoedd, a thystiolaeth Mrs. Edwards wrtho ydoedd, "Pan groesem y llwybr sy'n arwain at ben yma'r llyn, synnwyd a swynwyd ni gan ganu uchel a ddeuai oddi tan ein traed o'r ddaear ac o'n cwmpas."Dywedai Mr. Richards, ffermdy Pant-y-bryn, yntau, na chlywsai ef y canu yn ddiweddar, eithr iddo'i glywed droeon amryw flynyddoedd yn ôl. Tystiai Mr. William Edwards, ffermdy Coed Cae, ei fod yn sicr y deuai'r canu o'r creigiau a amgylchai'r llyn. Pan oedd ef yn hogyn bach clywsai ei dad yn sôn am y canu, ac yr oedd yn sicr y gwyddid amdano tua chan mlynedd yn ôl.[2] Methodd y gohebydd medrus â datrys y broblem; eithr nid problem mohoni i'r sawl a gred yn y Tylwyth Teg.

Ychydig amser yn ôl—dwy neu dair oes efallai

  1. The Western Mail and Sonth Wales News, September 2, 1936.
  2. News Chronicle, September 28, 1936.