Testun italig—peth peryglus oedd ceisio croesi cylchau'r Tylwyth. O diflannai neb heb adael trywydd o gwbl, tybid yn gyffredin syrthio ohono i ddwylo'r Tylwyth Teg a'i gyfareddu ganddynt. Ceir lliaws o enghreifftiau o hyn.
COLLI'R FORWYN. Cafodd Syr John Rhys hanes diddorol gan hen wraig ym Mronnant, Ceredigion, am eneth a gollesid yn y gymdogaeth honno yn ei dyddiau bore hi. Yng ngwanwyn y flwyddyn, aeth un o loi amaethwr ar grwydr, a pharodd yntau i'w was a'i forwyn ei geisio a'i ddwyn adref. A hwy yn croesi dôl wrth ddychwelyd rhwng tywyll a golau, diflannodd yn eneth fel diffodd cannwyll, ac er i'r gwas chwilio a gweiddi methodd ei chael. Aeth y newydd am y colli trwy'r fro fel fflam trwy wellt, ac yn fuan drwgdybiwyd y gwas o gamwri. Er y taerai ef ei ddiniweidrwydd, fe'i carcharwyd. O glywed ei daeru uchel a chyson, meddyliwyd am driciau'r Tylwyth Teg, ac ymgynghorwyd â'r Consurwr. Eglurodd yntau fod y ferch yn nwylo'r Tylwyth, ac i'w rhyddhau bod yn rhaid i'r gwas ymhen un dydd a blwyddyn o nos y colli, ac yn y dillad a wisgasai'r pryd hwnnw, fyned i'r man y collwyd hi a'i cheisio. Aeth y gwas, a disgwyl hyd oni ddaeth y Bobl Fach i'w cylch i ddawnsio a chanu. Gwelodd y ferch yn eu plith. Trwy ofal a medr ymlusgodd y gwas hyd at fin y cylch, a phan oedd hwyl y chwarae ar ei uchaf, a phawb yn benysgafn yn nhroell y ddawns, taflodd yntau ei fraich o'r ysgwydd â sydynrwydd saethu, a chipio'r eneth o'r