Tudalen:Coelion Cymru.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cylch. Wedi cyrraedd y cartref, mynegodd y forwyn gael ohoni flwyddyn o lawenydd digymysg, ac na allai aros yn y ffermdy os cyffyrddid hi rywdro â haearn. Un pen bore ymhen rhai blynyddoedd, a'r amaethwr yn ffrwyno'i farch ar gyfer taith i'r farchnad, cyffyrddodd yr enfa ar ddamwain â'r forwyn. Diflannodd hithau ar drawiad.

LLITHIO I'R CYLCH YN NANT-Y-BETWS (CAERNARFON). Ceir hanes y llithio hwn ym mhob rhan o Gymru. Pa wahaniaethau bynnag sydd rhwng Deau a Gogledd, yr un ydyw'r Tylwyth Teg o ran natur ac arferion ym mhobman. A mab Llwyn Onn, Nant-y-betws, ar ei hynt garu i Glogwyn-y-gwin, ar nos "golau pelyd," trawodd ar y Bobl Fach yn dawnsio a chanu'n isel mewn gweirglodd ar lan Llyn Cwellyn. Tynnodd at y cylch, a denwyd ef i mewn. Fe'i cafodd ei hun yn y wlad harddaf a fu erioed, a phawb yn hoyw a dedwydd. Bu yno saith mlynedd, eithr iddo ef nid oedd fwy nag ychydig oriau. Daeth i'w feddwl ei fwriad i gyfarfod â'i gariadferch, a cheisiodd ganiatâd i ddychwelyd adref. Cafodd hynny'n rhwydd, ac arweiniwyd ef tua'i wlad. Yn sydyn diflannodd y lledrith, ac fe'i cafodd yntau ei hun ar y ddôl noeth lle gwelsai gyntaf y chwarae a'r dawnsio. Cyrhaeddodd ei gartref a chael yno bopeth wedi newid. Yr oedd ei rieni yn y bedd, ei frodyr yn methu â'i adnabod, a'i gariad wedi priodi un arall. Torrodd ei galon, a bu