Tudalen:Coelion Cymru.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

farw mewn llai nag wythnos.[1]

LLANCIAU BRYN EGLWYS (CORWEN) A RHYS A LLYWELYN (GLYN NEDD). I fod dynol y mae 'un dydd a blwyddyn' yng ngwlad y Tylwyth Teg fel ychydig oriau neu funudau. Profir hyn gan storïau a geir trwy Gymru. Y mae honno a geir o Fryn Eglwys, gerllaw Corwen, yn lled adnabyddus mi a dybiaf, oblegid cynhwysir hi yn y mwyafrif o gasgliadau o lên gwerin Cymru. Dau lanc o Fryn Eglwys yn cyrchu glo o Finera— yn taro ar gwmni o'r Tylwyth Teg yn dawnsio— un yn ymuno â hwy am ychydig funudau—ni welwyd ef mwy gan ddynion am flwyddyn gyfan.[2][3]

Ceir hanes o eithaf Deheudir Cymru sy'n cynrychioli'r math hwn o stori cystal â dim a welais i. Ychydig tros gan mlynedd yn ôl aeth Rhys a Llywelyn, dau o weision fferm, liw nos o Lyn Nedd i gyrchu calch. Wrth ddychwelyd clywodd Rhys ganu, a gweled dawnsio'r Tylwyth, a pharodd i Lywelyn fyned rhagddo â'r llwyth, am y mynnai ef ymuno am ychydig yn y ddawns. Pan dorrodd y wawr nid oedd Rhys wedi cyrraedd y fferm. Bu chwilio dyfal amdano a methu â'i gael. Drwgdybiwyd Llywelyn o lofruddio'i gydwas. Eithr ymhen rhai misoedd daeth i feddwl amaethwr deallus, a oedd gymydog, gampau'r Tylwyth Teg. Aeth ef ac eraill, â Llywelyn yn eu plith,

i'r man y collwyd Rhys, a thua'r un adeg o'r nos.

  1. Celtic Folklore, Syr John Rhys, Cyf. I., td. 49.
  2. Welsh Folklore, y Parch. Elias Owen (1887). "Cyf. Eist. Ffestiniog" (1898).
  3. Y Tylwyth Teg, Hugh Evans (1935).