Yn ddifwriad sangodd Llywelyn fin y cylch a chlywodd ganu, eithr nis clywai'r lleill. Rhoes un droed ar droed Llywelyn, a chlywodd yntau'r canu, ac felly pob un o'r lleill yn ei dro. Yn fuan, gwelent y cylch yn llawn o'r Bobl Fach yn dawnsio ar eu hegni, a Rhys yn eu plith. Gwyliasant y ddawns hyd oni ddaeth Rhys i'w hymyl, ac yna ei gipio allan. Y peth cyntaf a ofynnodd ydoedd, "P'le mae'r llwyth a'r ceffylau?" O'i anfodd yr aeth adref, am y tybiai na fuasai yn y ddawns fwy na phum munud. Dywedwyd yr hanes wrtho. Aeth yntau yn bruddglwyfus a chlafychodd, ac ni bu fyw yn hir.[1]
CYRCHU MAMAETHOD O BLITH DYNION I WEINI AR WRAGEDD Y TYLWYTH. Ni fu erioed gystudd na phoen nac ofn ymhlith y Tylwyth Teg—nid oes ynddynt hadau marwoldeb—ond er cysur a mwyniant i'r wraig ar adeg geni baban, ceir ambell ddynan mwy caredig na'i gilydd yn ceisio mamaeth o blith y 'marwolion' i weini arni.
Rhydd Syr John Rhys hanesyn diddorol sy'n enghraifft o lawer. Preswyliai yn Swyddffynnon, Ceredigion, hen wraig o'r enw Pali, a fu farw tua thrigain a deg o flynyddoedd yn ôl, a hi ar gyfyl cant oed. Un min nos cyrchwyd hi gan un o'r Tylwyth i weini ar ei briod. Arweiniwyd hi i blas gwych. Yr oedd pob pilyn yn yr ystafell cyn wynned â'r eira. Ganed y baban. Ni welai a
ac ni chlywai Pali neb na dim ond y fam a'r
- ↑ The Science of Fairy Tales, F. S. Hartland (1891) td. 162-3.