Tudalen:Coelion Cymru.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

baban, eithr llenwid yr ystafell â gweinidogion bychain y Tylwyth yn gweithio'n gudd a thawel. Rhoddwyd i Bali ennaint arbennig i eneinio corff y baban pan ' driniai' ef fore a hwyr, a pharwyd iddi ochel cyffwrdd ei llygaid ag ef. Eithr un hwyr, a hi yn c trin' y plentyn, aeth i'w llygad gosi, ac yn ddifeddwl rhwbiodd hithau ef â'i llaw. Ar amrantiad gwelai bopeth-yr ystafell yn llawn o'r Bobl Fach. Bore trannoeth pan olchai'r baban, meddai Pali wrth y fam, " Chwi gawsoch lawer o ymwelwyr yma ddoe." " Ymwelwyr?" meddai hithau, " Pa fodd y gwyddoch hynny? A roddasoch chwi'r ennaint ar eich llygaid?" Yna neidio'n chwimwth o'i gwely a chwythu i lygaid Pali, a dywedyd, " Bellach ni welwch ddim a berthyn i ni." O hynny allan bu Pali yn ddall i bopeth y Tylwyth Teg hyd ei bedd. Hanes diddorol yw hwnnw a ddaeth o ardal Beddgelert. Un tro, a mamaeth o Nanhwynan yn Hafodydd Brithion ynglŷn â'i gwaith, daeth at y drws ŵr bonheddig ar farch glaslwyd, a'i gorchymyn i'w ddilyn ef yn ddiymdroi. Esgynnodd hithau i gefn y march ac eistedd wrth sgil y gyrrwr. Ymaith â hwy fel y gwynt drwy Gwm Llan, tros y Bwlch, i lawr Nant-yr-Aran a thros y Gadair i Gwm Hafod Ruffudd. Cyrhaeddwyd plas mawr a gwych wedi ei oleuo â llusernau na welodd erioed eu hafal. Aethpwyd i mewn, trwy dyrfa o wasananaethyddion bychain, i ystafell gwraig y plas. Gwnaeth y famaeth ei gwaith ar frys ac* yn fuan. Tariodd yno rai dyddiau, a