Tudalen:Coelion Cymru.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwy oedd y dyddiau hapusaf a gafodd erioed. Cyn ei chychwyn oddi yno, rhoes y gŵr bonheddig iddi bwrs mawr a thrwm, a'i gorchymyn i beidio â'i agor hyd oni chyrhaeddai ei chartref. Pan agorwyd y pwrs cafwyd ef yn llawn o aur. Bu'r famaeth fyw hyd derfyn ei hoes ar ei henillion ym mhlas y Tylwyth Teg.[1]

Ceir o Gernyw stori mamaeth a wahaniaetha gryn lawer oddi wrth y ddwy a nodwyd, a hon yw yr unig un o'i bath y gwn i amdani. Yng Nghernyw ymddiriedwyd un o blant y Tylwyth Teg i famaeth ddynol i'w fagu yn ei chartref hi ei hun, a rhoddwyd iddi ddwfr o natur arbennig i olchi'r bachgen. Daeth y plentyn â llwyddiant anarferol i'r cartref, ac ymhoffodd y famaeth yn fawr ynddo. O weled y parai'r dŵr a ddefnyddiai i wyneb y bachgen ddisgleirio fel yr haul, mynnodd weled pa effaith a gâi ar ei hwyneb hithau. Wrth iddi ymolchi, tasgodd defnyn neu ddau o'r dŵr i'w llygad. Yna gwelai mewn eiliad, ac am y tro cyntaf, nifer o'r Bobl Fach yn chwarae â'r plentyn ar lawnt y tŷ. Un diwrnod yn y farchnad, cyfarfu â thad y bachgen a'i gyfarch. Meddai yntau wrthi:

" Nid dŵr i ti, ond dŵr i'r baban;
Collaist dy lygad, y baban a'th hunan."

O'r awr honno bu'r famaeth yn ddall yn y llygad deau, a phan gyrhaeddodd adref yr oedd y

bachgen wedi diflannu. Ciliodd pob llwyddiant

  1. Y Brython, Cyf. IV., td. 231.