Tudalen:Coelion Cymru.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a hawddfyd o'r cartref, a bu hi a'i phriod yn dlawd a thruenus hyd derfyn eu bywyd.[1]

PRIODI UN O FERCHED Y TYLWYTH (CAERNARFON). Peth cyffredin gynt ydoedd i lanc o blith dynion ymserchu yn un o ferched y Tylwyth Teg a'i phriodi. Cafodd Syr John Rhys gan y Parchedig Owen Davies, curad Llanberis, yr hanes a ganlyn fel yr adroddid ef yn Nant-y-betws, gerllaw Caernarfon.

Un prynhawn teg ym Mehefin, aeth etifedd yr Ystrad i lan afon Gwyrfai, heb fod ymhell o'i chychwyn yn Llyn Cwellyn, ac ymguddio mewn llwyn yn ymyl y fan yr arferai'r Tylwyth Teg ddawnsio. Cyn hir daeth y Tylwyth yno, ac yn eu plith yr eneth dlysaf a welsai. Heb yn wybod i'r Tylwyth, llwyddodd i'w dal a'i dwyn i'r Ystrad. Syrthiodd yr etifedd mewn cariad â hi, a llwyddo i'w chadw yn forwyn iddo. Bu'n forwyn heb ei bath. Godrai deirgwaith y swm arferol o laeth oddi wrth bob buwch. Eithr methai yn ei fyw â'i chael i ddatguddio'i henw. Ar ddamwain, un tro, fe'i cafodd ei hun wrth yr hen lwyn eilwaith, ac ymguddiodd a chlywed y Tylwyth yn sôn am yr eneth a gollwyd, ac yn dywedyd, "Pan oeddym yma ddiwethaf dygwyd oddi arnom ein chwaer Penelope gan un o'r marwolion." Dychwelodd yntau i'r Ystrad a chyfarch y forwyn wrth ei henw. Synnodd

hithau ac ofni peth wrth glywed ei henw. Ceisiodd y llanc ganddi addo bod yn briod iddo, ac

  1. The Science of Fairy Tales, E. S. Hartland (1891), td. 66.