nerth a oedd ganddo. Ni welodd y fam beth bach salwach erioed. Galwodd ar ei phriod o'r maes a'i yrru i chwilio am "Ŵr Cyfarwydd," ac ymgynghori ag ef. Ar ôl hir holi, cafwyd bod offeiriad Trawsfynydd yn gyfarwydd yng nghyfrinion ysbrydion a bodau anweledig eraill. Aed at hwnnw. Parodd yntau i'r gŵr geisio rhaw a'i gorchuddio â halen a thorri ynddo lun croes. Yna gosod y rhaw ar y tân yn ystafell y plentyn diethr, â'r ffenestr yn agored. Pan ddechreuodd yr halen grasu, diflannodd yr erthyl bach yn anweledig, a chaed y baban arall yn ddianaf ar garreg y drws.[1]
I amlygu nodweddion y Tylwyth Teg nid oes ofyn am ychwanegu namyn un stori, sef "Melltith Pantannas." Cyn belled ag y gwelais nid oes yn bod well stori amdanynt na hon. Cafodd Syr John Rhys hi gan Mr. Isaac Creigfryn Hughes, Mynwent-y-Crynwyr, Morgannwg. Yr oedd Creigfryn yn fardd adnabyddus mewn cylch eang yn ei ddyddiau bore, a datblygodd yn nofelydd da. Cyhoeddwyd o leiaf chwech o'i nofelau. Yn eu plith y mae "Y Ferch o Gefn Ydfa," "Y Ferch o'r Sgêr" a "The Tragedy in Gelli Woods." Glöwr ydoedd. Bu farw ym mis olaf y flwyddyn 1928, yn 76 oed. Yr oedd Creigfryn yn ddall y tro diwethaf y gelwais i'w weled, ond yr oedd mor hoyw ei feddwl a diddan ei ymgom ag y bu erioed. Cyraeddasai radd lled uchel o ddiwylliant, ac
efallai na chredai bopeth a ddywedai am y
- ↑ Celtic Folklore, Cyf. I., Syr John Rhys, td. 100.