Tudalen:Coelion Cymru.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tylwyth Teg. Ni wn i ddim. Soniai lawer amdanynt, a châi flas anarferol ar ddilyn eu trywydd. Wele'r stori.

Y TYLWYTH TEG YN DIAL, NEU MELLTITH PANTANNAS (MORGANNWG). Ymwelai'r Tylwyth yn gyson â meysydd Pantannas, ond am ryw reswm neu'i gilydd ni hoffai'r amaethwr eu hymweliadau, a rhoes ei fryd ar ddyfalu moddion i'w cadw draw. Wedi methu â chynllunio dim effeithiol ymgynghorodd â rheibes, ac addawodd hithau ei gynorthwyo os câi hi "y godro am un hwyr a bore." Parodd iddo aredig y meysydd y cyrchai 'r Tylwyth iddynt, a châi yn fuan y diflannent mewn siom o golli y tonglas. Triniwyd y tir a hau, a thyfodd yr had yn gnwd trwm. Daeth y cynhaeaf. Eithr un hwyr cyfarfu'r amaethwr ar ei lwybr â hen ŵr bach wedi ei wisgo mewn gwyrdd, a chyfeiriodd hwnnw ei gleddyf bychan ato a dywedyd,

"Dial a ddaw,
Y mae gerllaw."

Cellwair a chwerthin a wnâi'r amaethwr—onid oedd rheibes yn gefn iddo? Ond ymhen ychydig ddyddiau, a hwy ar fedr cywain yr ŷd, llosgwyd y maes gan y Tylwyth Teg. Edifarhaodd yr amaethwr am a wnaeth, a thra myfyriai yn y maes uwchben y difrod, wele'r gŵr bach yn dynesu eilwaith a dywedyd,

"Nid yw ond dechrau."

Datganodd yr amaethwr ei ofid, ac addo y câi'r