tir dyfu drachefn i fod yn fannau chwarae'r Tylwyth os atelid y dial. "Na," meddai'r cor, "gair y brenin yw, Dial, ac nid oes ar y ddaear a'i tyn yn ôl." Ar ôl hir ymbil â'r bychan, addawodd yntau eiriol ar ei ran. Wedi machlud haul trannoeth cyfarfuwyd drachefn, a chael bod gair y brenin i sefyll. Rhaid oedd dial, ond yn wyneb edifeirwch yr amaethwr ni ddeuai'r felltith arno ef na'i blant, ond " rhaid oedd dial."
Aeth canrif heibio, ac ni ddaeth un math o aflwydd, eithr clywid weithiau y waedd, "Daw dial."
Yr oedd etifedd Pantannas a merch Pen Craig Daf ar fin priodi, ac yng ngŵyl y Nadolig cyrchwyd y ferch ieuanc i wledd ym Mhantannas. A'r cwmni o gylch y tân wedi'r wledd, dychrynwyd hwy gan floedd o'r afon islaw—
"Daeth amser dial."
Ymwahanwyd, ac aeth Rhydderch, yr etifedd, â'i gariadferch, Gwerfyl, i'w chartref ym Mhen Craig Daf, ac ni ddychwelodd adref.
Ar ei ffordd yn ôl i Bantannas daliwyd Rhydderch gan y Tylwyth yn un o'u cylchau, a'i hudo i'w hogof yn Nharren-y-Cigfrain, a'i gadw yno. Aeth heibio flynyddoedd, a gwelid Gwerfyl fore a hwyr ar fryncyn yn ymyl ei chartref yn syllu i bob cyfeiriad gan ddisgwyl ei chariadfab. Gwyliodd oni phallodd ei golwg a gwynnu o'i gwallt. Disgwyl yn ofer am oes. Bu farw, a chladdwyd hi ym mynwent hen Gapel-y-Fan.
Wedi tario o Rydderch yn ogof Tarren-y-Cigfrain, am ychydig oriau yn ôl ei dyb ef, dymunodd ddychwelyd i Bantannas a phriodi Gwerfyl.