gwasanaethu'r duwiau gyhyd ag offerynnau cerrig, y gwrthwynebai'r duwiau hynny bob newid. Priodolid math ar gymeriad neu ansawdd ddwyfol i'r erfyn carreg.[1]
Tybir hefyd yr ofnai'r hen drigolion bore haearn oherwydd bod eu gelynion, a ddefnyddiai haearn i ymosod, yn drech na hwy nad oedd ganddynt namyn arfau cerrig.
Wrth gwrs nid yw hyn i gyd ond dyfalu noeth, a gweithredu ar yr un egwyddor ag y gwnaethai'r hen ofergoelwyr cyntaf.
Y mae Cuddio'r Enw yn beth cyffredin yn hanes y Tylwyth Teg. Ceir enghraifft yn stori Etifedd yr Ystrad a Penelope. Ni fynnai'r Bobl Fach ddatguddio'u henw. Credir yn y Dwyrain o hyd fod gwybod enw person yn sicrhau dylanwad mawr ac awdurdod llwyr ar y person hwnnw.
Oherwydd hyn, mewn amryw briodasau yn India heddiw, ni ŵyr y priodfab enw priodol y briodasferch hyd oni fydd y priodi trosodd. Nid oes iddo awdurdod arni hyd hynny. Cadwodd miloedd o filwyr India yn y Rhyfel Mawr eu henwau yn gyfrinach ar ròl fechan a oedd yn rhwymedig ar y fraich neu am y gwddf. Mynnent eu hadnabod wrth enwau ffug. Anaml y rhydd anwariaid eu henwau priodol. Byddai rhoddi'r enwau yn rhoddi i eraill awdurdod trostynt.[2] Ni fyn y Tylwyth Teg fod tan awdurdod neb.