Tudalen:Coelion Cymru.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.

BODAU ANWELEDIG

Ceir math arbennig o fodau ysbrydol yn ymyrryd â bywyd y ddaear na ellir yn briodol eu rhestru gyda'r Tylwyth Teg na'r ysbrydion a ymddengys i ddynion. Ni wn am well enw arnynt na Bodau Anweledig. Gwahaniaethant o ran amryw bethau, eithr y maent oll ynghudd—anaml, os byth, y gwelir hwy.

Y Coblynnau. Nid oes sicrwydd hollol ynglŷn â natur a pherthynasau'r bodau hyn. Cred rhai mai rhywogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg ydynt. Ond nid oes yn eu harferion ddim tebyg i eiddo'r Tylwyth, ac er bod tuedd ymguddio yn y Bobl Fach, gwelir hwy'n aml, yn ôl tystiolaeth amryw, eithr y mae'r Coblynnau yn gwbl anweledig. Y mae iddynt amryw ddibenion, ond y prif ddiben ydyw gwasanaethu mwynwyr trwy eu tywys at feteloedd, megis plwm a chopr, arian ac aur; ac ar brydiau cynorthwyant y glowr yntau. Gwnânt eu gwaith trwy guro'r graig, a rhoddi arwyddion eraill trwy sŵn tanddaearol. Eu henw Saesneg ydyw Knockers.

Brithir rhai o siroedd Cymru, ac yn arbennig Ceredigion a Fflint, â gweithfeydd mwyn plwm a chopr. Ar fynydd a dyffryn a chwm a chilfach ceir cannoedd o byllau a lefelydd, a thynnwyd