ohonynt er dyddiau'r Rhufeiniaid feteloedd gwerth miliynau o bunnoedd. Caed yn y mwyafrif o'r gweithfeydd hyn lawer o arian a thoreth o blwm a chopr. Nid ydynt wedi eu " gweithio allan" o lawer, ond am resymau hysbys y mae'r nifer fwyaf ohonynt yn segur ers ugeiniau o flynyddoedd.
I lawr hyd at hanner can mlynedd yn ôl, credai'r mwynwyr yn gryf yn y Coblynnau a'u cymwynasgarwch. Clywais ganwaith pan oeddwn yn hogyn eu curo dyfal yng ngwaith Esgair Hir. Ni wyddwn y pryd hwnnw achos a diben y curo, ac efallai fod yr hen fwynwyr yn rhy garedig a meddylgar i egluro i lanc rhag peri dychryn iddo. Profir nad ieuanc na damweiniol y gred yn y Coblynnau gan lythyrau Lewis Morris, Môn.
Pan breswyliai Lewis Morris yn Allt Fadog, ffermdy yn y mynyddoedd ychydig filltiroedd o Aberystwyth, gwariodd lawer o'i amser a'i arian ar weithio gweithfeydd mwyn plwm, fel goruchwyliwr Mwynau'r Brenin a throsto'i hun. Yn 1754 ysgrifennodd amryw o lythyrau ynglŷn â hwy at ei frodyr ac eraill. Mewn rhai o'r llythyrau hyn sonia am y Coblynnau. Hwy ydyw baich llythyr a ysgrifennodd o Allt Fadog, Hydref 14, 1754, at ei frawd William. Ysgrifennodd yn Saesneg, ac wele drosiad rhydd o rai o'i frawddegau.
"Chwardd y sawl na ŵyr ond ychydig am gelfyddydau a gwyddorau, neu bwerau Natur (y rhai sydd bwerau Awdur Natur) am ein pen ni fwynwyr Ceredigion y sy'n credu yn y Coblynnau