Tudalen:Coelion Cymru.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn gweithfeydd. Math o fodau anweledig ac o natur dda ydynt. Clywir hwy, eithr nis gwelir. Y maent yn rhagarwyddion i'r gweithwyr, megis y mae breuddwydion o rai damweiniau a ddigwydd inni.

"Cyn darganfod gwaith Esgair Mwyn, gweithiai'r bobl fach hyn yn galed yno ddydd a nos, ac y mae amryw o bobl onest a sobr a'u clywodd, a rhai personau na feddent un syniad amdanynt hwy na'r gweithfeydd. Ar ôl darganfod y mwyn peidiodd y Coblynnau â'u gwaith.

"Pan ddechreuais weithio Llwyn Llwyd, gweithient mor brysur yno am gryn amser nes dychrynu rhai gweithwyr ieuainc, a pheri iddynt ymadael â'r gwaith. Yr oedd hyn pan weithid y lefelydd a chyn taro ar fwyn. Pan gyrhaeddwyd y mwyn peidiasant hwythau â'u curo, ac ni chlywais hwy mwy."

Dysg Lewis Morris y dylid gweithredu bob amser yn ôl cyfarwyddyd y Coblynnau:

"Dyma opiniwn yr hen fwynwyr a broffesa ddeall gwaith y Coblynnau. Gweithreda ein Capten yn ôl y rhybudd a roddir, a disgwyl bethau mawr.

"Chwardded a fynno, y mae gennym y rheswm gorau tros lawenhau, a diolch i'r Coblynnau, neu'n hytrach, i Dduw, sydd yn anfon y rhybuddion hyn."[1]

  1. The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris of Anglesey, 1728-1765, J. H. Davies, M.A. (1907) Cyf. I., td. 311-313.