Cefais y ddau hanesyn a ganlyn gan Mr. Lewis Hughes, Henblas, Bryniau, Meliden, Sir Fflint. "Nid oes yng Nghymru sir â chymaint o olion hen gloddio yn ei chreigiau â Sir Fflint.
"Cofiaf ymgomio â'm tad ynglŷn â digwyddiadau yng ngwaith plwm Deilargoch, plwyfi Dyserth a Galltmelyd. Wrth ben y gwaith y mae olion llawer o gloddio cynnar ar ochr y Graig Fawr. Cloddiwyd ar ôl yr wythïen gul am bellter mawr i'r graig gan wneuthur hollt ynddi. Y syndod ydyw i neb lwyddo gweithio mewn lle mor gyfyng. Nid yw'r lled mewn amryw fannau yn ddigon i hogyn ysgol fyned iddo. Gofynnais i'm tad pwy a fu'n gweithio yn yr holltau cul hyn. 'O,' meddai,' y bobl bach du. Pobl fychain a oedd yn byw yma ymhell bell yn ôl, fel y clywais gan yr hen bobl' Holais a wyddai ef rywbeth am y 'nocars' (coblynnau.) 'Gwn yn dda,' meddai. 'Clywais lawer o sŵn ym mherfeddion y Pwll Coe, fel sŵn ceibio a dyrnu a chodymu, fel petai rhywrai'n gweithio yr ochr arall inni. Credai'r hen bobl fod rhyw fodau tanddaearol yn cloddio am blwm fel ninnau. Yr oeddynt yn anweledig, ond gadawent agennau mawrion yng ngholuddion y ddaear yn brawf o'u gweithio.' "
Cafwyd yr hanesyn a ganlyn gan yr un gŵr. "Yn 1777, dechreuwyd gweithio gwaith yr Holway. Cloddiwyd twnnel i'r graig ychydig i'r gorllewin o Ffynnon Gwenfrewi, a chloddiwyd yn ofer am agos i ugain mlynedd. Yr oedd y perchenogion bron a thorri eu calon, a'r gweithwyr wedi