bwrpas ydyw cyfarwyddo dynion i drefnu'n addas ar gyfer anghenion moesol ac ysbrydol ardaloedd. Ym mharthau gwledig Cymru, y mae'r Eglwysi Esgobol bron i gyd yn hen, a'r bodau hyn a fu'n penderfynu safleoedd rhai ohonynt. Er pob dyfalu a fu, methwyd erioed â phenderfynu'n derfynol rywogaeth yr ysbrydion. Y mae'n eglur oddi wrth y diddordeb a deimlant mewn eglwysi nad ysbrydion drwg mohonynt. Eu modd o weithio ydyw dinistrio lliw nos yr hyn a adeiledir gan ddynion liw dydd, a symud y defnyddiau i'r man y dylid adeiladu'r eglwys.
Un o'r pethau a ddysgais i gyntaf mewn barddoniaeth (!) ydoedd dwy linell a ddengys mai ysbrydion anweledig ac ymyrgar a benderfynodd safle Eglwys Sant Mihangel, y Llandre. Lle bach glân a phrydferth odiaeth ydyw'r Llandre, ryw bedair milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Bwriedid oesoedd yn ôl adeiladu'r eglwys gyntaf ar y lle y saif amaethdy Glan Fred Fawr heddiw. Casglwyd y defnyddiau ac aed ati i adeiladu. Gweithiai'r seiri maen yn ddygn drwy'r dydd, eithr yn y nos dinistriai'r ysbrydion y gwaith a dwyn y meini i fan arall filltir i ffwrdd. Aed ymlaen fel hyn am gryn amser; y seiri yn adeiladu a'r ysbrydion yn chwalu. Ond un canol nos llefarodd yr ysbryd a chodi ei lais fel y clywai'r holl ardalwyr ef:
"Llanfihangel yng Ngenau'r Glyn;
Glan Fred Fawr a fydd fan hyn."
Dechreuwyd adeiladu ar y man yng ngenau'r