Tudalen:Coelion Cymru.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glyn lle y gosodwyd y meini gan yr ysbrydion, ac ni fu ymyrryd mwy.

Ceir hefyd draddodiad cyffelyb o ganolbarth y sir. Yn ei anerchiad i Gymdeithas Hynafiaethol Sir Aberteifi (Mai 12, 1926), ar Eglwys Pen-y-bryn, Llangrannog, dywedai'r Parchedig W. D. Jones, ficer y plwyf, fod yn yr ardal hen gred mai rhyw fodau goruwchnaturiol a benderfynodd safle'r eglwys. Penderfynasai'r plwyfolion adeiladu ar fan a elwid Hen Glos, ar fferm Pwll Glas, eithr nid cynt y casglwyd defnyddiau a dechrau adeiladu nag yr aflonyddwyd arnynt gan fodau anweledig. Cariai'r bodau hyn ymaith bob nos y meini a osodasid gan y gweithwyr yn ystod y dydd, a'u gosod ar safle'r eglwys bresennol, a llafarganu wrth eu gwaith:

"Ni ddaw bendith i dy ran,
Heb it newid sail y llan."

Wedi gorffen yr eglwys yn ôl dymuniad yr ysbrydion, clywyd lleisiau angylion yn cyhoeddi:

"Ni chei syflyd o'r fan hyn,
Llanfihangel Pen-y-bryn."

Ni wn am un esboniad ar y coelion hyn, ond gwn y byddai'n fendith i lawer ardal petasai rhyw ysbryd a welsai'n gliriach ac ymhellach na dynion wedi penderfynu safleoedd rhai o gapelau Cymru.

HEN WRACH CORS FOCHNO. Y mae'n anodd penderfynu ym mha gwmni y dylid gosod yr Hen Wrach. O ran natur nid yw yn anweledig, ond y