Tudalen:Coelion Cymru.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yng nghored Gwyddno Garanhir, tywysog Cantre'r Gwaelod, ar fin y gors ac ar ei chwr eithaf i'r deau, y cafwyd Talieisin Ben Beirdd. Y mae'r traddodiad yn hen bellach, â pheth o flas y Mabinogion arno, er nad oes a ŵyr yn sicr ei gychwyn. Yn fras a chynnil fel hyn y rhed. Ymhell yn ôl, ym Mhenllyn, preswyliai Tegid Foel a'i briod Ceridwen, ac iddynt fab a'i enw Afagddu, a oedd fel ei enw yn hagr—yr hacraf erioed a fu. Meddylio a wnaeth y fam, a phenderfynu ei harddu â phob gwybodaeth a doethineb, a myned ati i ferwi pair er cael awen i'w mab hyll. Rhaid oedd cadw'r pair ar ferw didor am un dydd a blwyddyn. Casglodd Ceridwen bob rhyw lysiau rhinweddol o'r meysydd, a gosod y pair tan ofal Gwion Bach, o Lanfair Caer Einion, a gŵr gwan ei feddwl o'r enw Morda. A'r flwyddyn bron ar ben, yn annisgwyliadwy neidiodd o'r berw dri diferyn a disgyn ar fys Gwion, a chan eu poethed trawodd yntau'r bys yn ei enau. Deallodd ar unwaith fyned holl rinwedd y pair i'w berson ef, a ffodd am ei einioes rhag llid Ceridwen. Erlidiodd hithau ef, a chanfu Gwion hi ac ymrithiodd yn ysgyfarnog; fe'i trodd Ceridwen ei hun yn filast; neidiodd Gwion i afon a throi'n bysgodyn; hithau a drodd yn ddyfrast; trodd Gwion yn aderyn; trodd hithau yn farcutan; pan oedd hi ar ei ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith ar lawr dyrnu ysgubor, a disgyn iddo a myned yn un o'r gronynnau; trodd Ceridwen hithau yn iâr a llyncu'r gronyn. Ymhen naw mis, ganed iddi