Tudalen:Coelion Cymru.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

faban a oedd mor dlws fel na allai feddwl am ei ladd, felly fe'i rhoes mewn corwg a'i daflu i'r môr. Un min nos Calan Mai aeth Elffin, mab Gwyddno Garanhir, a oedd â'i fryd ar bysgota, i gored ei dad a oedd ar enau afon Eleri (cyn ei throi o'i gwely naturiol). Ni chafodd yno bysgod, eithr corwg ynglŷn wrth bawl y gored, ac yn y corwg y plentyn harddaf erioed. Cyn hardded oedd y mab bach ag y'i galwyd Tâl-iesin,—wyneb tlws, ysblennydd. Aed â'r plentyn i blasty Gwyddno, ac yn ôl yr hanes, yno y bu hyd oni foddwyd Cantre'r Gwaelod. Dihangodd Taliesin rhag y dilyw, a thrigo ar odre'r mynydd tan y Graig Fawr. Y mae ei fedd i'w weled ar uchaf y mynydd gerllaw Pensarn, filltir fawr o bentref Tre' Taliesin.

Dyna Gors Fochno—cartref yr Hen Wrach. Y mae llawer o draddodiadau a choelion Cymru yn gyffredin i'r holl siroedd, ond ni chlywais am draddodiad yr Hen Wrach yn unman ond ym mhlwyf Llancynfelyn. Yr oedd bri mawr ar y goel yn fy nyddiau bore, eithr nid oes iddi le amlwg a phwysig ym mywyd y genhedlaeth bresennol, a hynny yn bennaf oherwydd cyfnewidiadau yn nulliau bywyd yr ardal. Nid yw'r wrach hon yn bod namyn yn y plwyf hwn, a da hynny, oblegid un â'i melltith yn filain ydyw. Nid oes a'i dinistria ond tân, a chan y trig mewn cors sy'n siglen ddyfrllyd, nid oes obaith am ei thranc hyd oni ddêl y dilyw tan, a rhaid i hwnnw losgi'n hir i'w llosgi hi.