Tudalen:Coelion Cymru.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bu preswylwyr Tre' Taliesin yn 'ymladd byw', ys dywedant hwy, am genedlaethau yn gaeth i ofn yr Hen Wrach, ac er pob gwylio a gochel delid hwy ganddi—pob un yn ei dro. Ni ddihangodd ar ei melltith na dyn mewn oed na phlentyn. Yr oedd yn gwbl ddidrugaredd ac yn greulon fel angau. Yr unig beth â chysgod y da ynddo y gellir ei ddywedyd yn ei ffafr ydyw, ei bod yn hollol amhleidiol, oblegid nid arbedai oludog yn fwy na thlawd, y call yn fwy na'r angall. Melltithiai bawb.

Gwyddai'r trigolion mai'r gors oedd cartref y Wrach, a chredid yn gyffredin ei bod, o fewn cylch y gors, yn hollwybodol, ac yn ei gwaith o felltithio yn hollalluog. Ni ddeuai byth o'i chartref namyn yn nhrymder nos, a rhaid fyddai wrth nos dywyll â niwl tew. Cymaint oedd ei chywilydd rhag ei gweled, gan ei hacred, fel na symudai liw dydd nac yng ngolau'r lloer. Gan nad oedd brinder niwl a tharth ym mlynyddoedd rhwysg yr Hen Wrach, câi gyfleusterau mynych i droi allan, ac mor ddieflig oedd ei nwyd a'i gwanc fel mai anaml yr âi cyfle heibio iddi'n ofer. Clywais i Fetsen, Llain Fanadl, ei gweled unwaith. Preswyliai Betsen fwthyn bregus ar fin y gors, ac un nos lwyd-olau a hi'n dychwelyd i'w thŷ o gasglu bonion eithin i achub tân trannoeth, gwelai ar ei chyfyl, yn eistedd ar dwmpath hesg, wraig hen â phen anferth ei faint, a'i gwallt cyn ddued â muchudd yn disgyn yn don fawr a thrwchus tros ei chefn ac yn ymgasglu yn glwstwr ar y ddaear.