Tudalen:Coelion Cymru.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Swpera yr oedd ar ffa'r gors a bwyd llyffaint. Ar ei gwaith yn myned heibio, cyfarchodd Betsen hi â "Nos da." Neidiodd y Wrach ar ei thraed— yr oedd yn llawn saith droedfedd o daldra, ac yn denau ac esgyrnog a melyngroen—a throi at Fetsen ac ysgyrnygu arni ddannedd cyn ddued ag afagddu, chwythu i'w hwyneb fel y chwyth sarff, a diflannu yn y gors. Dywedir na fu Betsen byth yr un ar ôl y noson honno.

Poenwyd pentrefwyr Taliesin am genedlaethau gan afiechyd a oedd yn gyffredin i bawb. Math o gryd ydoedd, a'i nodweddion yn rhai hynod a chas. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, tebyg i saldra'r môr, ac yna ceid crynu mawr drwy'r holl gorff a barhâi am awr gron. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r crynu, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhâi felly am wyth neu ddeng niwrnod, a phan ballai grym y clefyd, a'r claf wedi troi ar wella, ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna ddau ddiwrnod rhydd, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd yn parhau i gynyddu hyd oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Gallai'r claf droi allan ar y dyddiau rhydd a chyflawni gwaith ysgafn, eithr rhaid oedd bod i mewn ddiwrnod y crynu. Yn un o'i lyfrau, dywaid Mr. Richard Morgan, M.A., Llanarmon-yn-Iâl, am eneth o Daliesin a fynychai ysgol Tal-y-bont, pentref cyfagos, pan oedd ef yn athro yno. Yr oedd y plentyn yn glaf o'r cryd, ond yn gwella. Eithr nid oedd y crynu wedi ei llwyr adael. Ar derfyn yr ysgol un prynhawn, meddai