hi wrth yr ysgolfeistr, "Please Sir I shan't be in School to-morrow "You shan't be in School tomorrow! and why?" meddai yntau. "Please Sir, I shall be shaking to-morrow."
Achosid yr afiechyd gan yr Hen Wrach, a galwyd ef ar ei henw. Ar nos dywyll creai'r wrach darth tew a llaith a ymdaenai fel mantell a chyrraedd i oedre'r Graig Fawr, ac yn y tywyllwch pygddu hwnnw âi i fyny i'r pentref, ac er pob dyfais a gofal i'w chau allan, mynnai ei ffordd yn llechwraidd i'r tŷ a ddewisai, a chyniwair y tŷ hyd oni ddelai i ystafell gysgu, ac yno chwythu ei melltith ar y sawl a gysgai. Deffroai'r truan hwnnw drannoeth o gwsg anniddig, llawn o ysbrydion mileinig, a'i gael ei hun yn llesg a chlaf a digalon. Ymhellach ymlaen yn y dydd deuai'r crynu, ac am awr gyfan crynai'r claf oni chrynai'r gwely yntau— awr gron o grynu heb na hamdden na gallu i siarad na chwyno na dim ond crynu. Cyn nos âi'r sôn drwy'r pentref fod hwn a hwn 'yn yr Hen Wrach.' Anaml y ceisid gwasanaeth meddyg, oherwydd dau reswm. Yn gyntaf, yr oedd y pentrefwyr yn rhy dlawd i dalu am wasanaeth meddygon a drigai yn Aberystwyth a Machynlleth, naw milltir i ffwrdd. Mwynwyr oedd y gweithwyr bron i gyd, a'u cyflog i fagu llond aelwyd o blant heb fod tros ddeunaw swllt yr wythnos. Pan oeddwn i yn hogyn naw mlwydd oed, aeth i'm hysbryd surni a erys ynof byth, oherwydd marw o enyniad yr ysgyfaint un a oedd bron yn hanfodol i'm llwyddiant a'm cysur—gorfod marw cyn ei