Tudalen:Coelion Cymru.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser am nad oedd modd i dalu am feddyginiaeth. Credaf i ddegau farw ym mhentrefi bach Cymru drigain mlynedd yn ôl, ac wedi hynny, oherwydd bod yn rhy dlawd i dalu'r meddyg. Bydd galw uchel ar rywrai am gyfrif ddydd brawd. Yr ail reswm paham na cheisid meddyg at y claf ydoedd, nad oedd yn yr holl wlad feddyg a allai atal y cryd. Yr oedd yn rhaid i felltith y Wrach weithio'i chwrs. Anfynych y digwyddai i neb farw o'r Hen Wrach, ond y mae rhesymau tros gredu yr amharai'r afiechyd gymaint ar nerfau'r claf fel y dioddefai i ryw raddau yn y pethau hynny ar hyd ei oes.

Deugain mlynedd yn ôl peidiodd y cryd, ac ni flinwyd ganddo neb o'r pentrefwyr byth wedyn, a chredwyd yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf y flwyddyn y diflannodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer o gyfnewidiadau ym mywyd yr ardal, ac yn eu plith roddi heibio losgi mawn, a defnyddio glo yn eu lle. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysgu y mae yn y gors, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau, a bwrw ei melltith fel cynt, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto. Cysgu y mae'r Hen Wrach.