Tudalen:Coelion Cymru.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV.

YMDDANGOSIAD YSBRYDION

Nid yw rhai coelion a fu unwaith yn gryf namyn dadfyw heddiw, ac nid anodd cyfrif am hynny. Yn gyffredin priodolir y newid o ran barn a chred i gynnydd gwybodaeth a goleuni mwy. Eithr o brin y credaf mai dyna'r prif reswm, os ydyw'n rheswm o gwbl. Effaith y pethau newydd a ddaeth i fywyd y werin ydyw'r newid o ran cred yn yr hyn a elwir yn ofergoelion. Pa ryfedd gilio o'r Tylwyth Teg i fannau diarffordd yn y mynyddoedd o sŵn cerbydau tân y relwe a'r cerbydau modur mawr a mân sy'n chwyrnellu tan chwythu a phesychu yn y dyffrynnoedd? Segurdod hir y gweithfeydd mwyn plwm a laddodd y gred yn y Coblynnau, ac am yr Hen Wrach, daw hi yn ôl pan ddêl mawn eto i'r aelwydydd.

Dychmygaf glywed ambell sant defosiynol, a llawer mab a merch a gafodd hir addysg, yn dywedyd mewn ysbryd brochus ac â gwg ar eu hael, mai ffwlbri amrwd yw storïau ysbrydion, ac nad rhesymol eu hadrodd yng ngoleuni gwybodaeth yr oes hon. Eithr dywaid un o ddysgedigion mwyaf diwylliedig y genedl i'w famgû weled ysbryd a Thylwyth Teg, a chlywed canu yn yr awyr, a bod yn rhaid iddo yntau roddi coel ar ei geiriau, ac ychwanega: Onid oes synhwyrau coll