Tudalen:Coelion Cymru.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a rhai wedi eu hanner pylu? Ni wyddom beth a allom, ac onid yw popeth gwerth ei wneuthur a wnaeth dyn erioed wedi ei wneuthur pan oedd y dyn yn fwy na dyn ar y pryd? Rhaid bod yn oruwchnaturiol am dro i gyflawni gorchest o unrhyw fath, a rhaid teimlo angerddoldeb nad yw o bethau'r byd hwn i weled yr anweledig."[1]

Er mai dadfyw yn awr ydyw llawer coel, oherwydd y rhesymau a nodwyd, pery'r gred yn ymddangosiad ysbrydion yn gryf ymhlith y canol oed a'r hen bobl. Efallai nad oes neb, o'i roddi mewn cysylltiadau arbennig, na ŵyr yn ei enaid am ias ofn gweled ysbryd. Yng Nghynhadledd fawr Wesleaid y byd a gynhaliwyd yn Nhoronto, Canada, yn 1911, yr oedd ugeiniau o'r cynrychiolwyr yn bobl dduon, a'r rhai hynaf ohonynt yn blant i rieni a fuasai'n gaethion. Dyn du, a oedd yn ysgolhaig graddedig, oedd ysgrifennydd cynorthwyol y Gynhadledd, a dynion duon oedd rhai o'r areithwyr effeithiolaf. Llefarent yn huawdl â llais dwfn a meddal, ond fel y twymai'u hysbryd, collid y melodedd o'r llais, a deuai iddo graster a sŵn gwynt gwyllt a barai i un feddwl am galedi'r caethiwed a hysian yr anwar yn y goedwig. Pan laciai gafael yr ewyllys a ddisgyblesid gan freintiau rhyddid, rhuthrai gweddillion yr anwar a waelodai yn y bywyd i'r wyneb. Meddai'r diweddar Barchedig Job Miles mewn pregeth ar "Y tadau a fwytaodd rawnwin surion, ac ar ddannedd y

plant y mae dincod,"—" Nid wyf fi yn credu yn

  1. Ysgrifau, Yr Athro T. H. Parry-Williams (1928), td. 77. 52