Tudalen:Coelion Cymru.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhenti'r Goat Hotel a'r tir a berthynai iddi. Yr oedd Dafydd yn ŵr egnïol ac anturiaethus, a chasglodd gryn lawer o gyfoeth, eithr clafychodd a bu farw heb wneuthur ewyllys. Yn fuan wedi'r claddu, aflonyddid ar heddwch y teulu gan ryw ymyrryd anesboniadwy. Clywid yn y nos gerdded trwm ar y grisiau ac yn yr ystafelloedd. Parhaodd yr aflonyddwch am rai wythnosau, a sibrydid ymhlith y gweision a'r morynion weled ohonynt eu hen feistr yn yr ystablau a mannau eraill ar ôl ei farw. Aeth yr Ysbryd yn hy gan-ymddangos yn aml. Ni feiddiai ond y dewraf groesi'r trothwy wedi machlud haul gan gymaint eu hofn. Yr oedd un hen was nad ofnai ddim, ac er ei fod ef a'i feistr yn gyfeillion mawr, am ryw reswm neu'i gilydd, nid ymddangosai'r Ysbryd iddo ef. Ond un noswaith, ar ei waith yn gadael yr ystabl, gwelai ei hen feistr yn ei wynebu. Ceisiodd y gwas ddynesu ato, eithr cilio a wnâi'r Ysbryd a myned at borth yr eglwys. "Wel, meistr," meddai'r gwas, "beth a bair i chwi aflonyddu arnom fel hyn?" "Hwlcyn," meddai yntau, "y mae'n dda gennyf dy weled, oblegid ni all fy esgyrn orffwys yn y bedd. Dos a dywed wrth Alice am iddi godi carreg aelwyd y bar-room ac y caiff oddi tani gan gini, a bod dwy ohonynt i'w rhoddi i ti." Gwnaed yn ôl y gorchymyn, ac ni phoenwyd y teulu mwyach.[1]

Esgeulustra anesgusodol a niweidiol ydyw peidio

  1. Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folklore, D. E. Jenkins (1899), td. 78-79.