Tudalen:Coelion Cymru.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfrif ei chynnwys. Rhywbryd rhwng 1887 a 1889 y cafodd yr Athro hi gan Mr. Edward Roberts, Abergele, a oedd yn ŵr deallus a diwylliedig, a chafodd yntau'r hanes gan y Parchedig Owen Thomas, D.D., y gweinidog Methodus enwog. Pan oedd y Doctor yn ddyn ieuanc yn Sir Fôn, yr oedd iddo gyfaill yn caru merch ieuanc a oedd yn byw rai milltiroedd i ffwrdd. Un noswaith wrth ddychwelyd o garu, braidd yn hwyr, a dyfod heibio i blas bychan, gwelai yn dynesu ato wraig wedi ei gwisgo dipyn yn hynod. Cyfarchodd hi â "Nos da," ac atebodd hithau, "Na ddychrynwch: gwyddoch pwy ydwyf." Adnabu hi fel gwraig gyntaf perchennog y plas. Yna? meddai hi, "Gwyddoch fy mod yn farw, ac i'm priod briodi eilwaith, ac nad yw popeth fel yr arferai â bod yn y plas." Dywedodd yntau y gwyddai. Ceisiodd hithau ganddo wneuthur ffafr â hi, sef hysbysu ei mab, a ddychwelai o China ymhen ychydig ddyddiau, fod mewn llyfr yn llyfrgell y plas nifer o nodau banc (bank notes) a oedd yn eiddo iddo ef. Nododd y silff, a'r llyfr a gynhwysai'r nodau. Addawodd yntau wneuthur yr hyn a dymunai. Diflannodd yr Ysbryd yn sydyn. Pan ddychwelodd y dyn ieuanc adref, ni ddywedodd air wrth ei fam a'i chwaer am yr hyn a welodd, ac yn fuan clafychodd gan ofn a phryder. Ceisiodd gan ei fam alw ar ei gyfaill Owen Thomas i ymweled ag ef. Dywedodd yr hanes wrth Mr. Thomas, a thrannoeth aeth y ddau i'r plas a chael y nodau yn hollol fel yr