Tudalen:Coelion Cymru.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hysbysodd yr Ysbryd. Mewn diwrnod neu ddau dychwelodd y mab o China, a chafodd yr arian.[1]

Yr oedd rhai o'r ysbrydion y rhoddwyd eisoes eu hanes yn hen, ac wedi cyflawni eu neges a gorffwys yn y gorffennol pell, eithr y mae amryw eraill y sydd, er yn hen, yn parhau i ymddangos oherwydd methu ganddynt ddal ar gyfle i'w mynegi eu hunain a gorffen eu gwaith. Un o'r rhain ydyw "Yr Hwch a'r Tshaen" y sy'n cyniwair dyfnderoedd coediog glannau afon Cell, yn y mynyddoedd yng ngogledd Ceredigion. Sicrhawyd fi yn 1924 gan un a fagwyd ar y Mynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach, y credai ef yn Ysbryd yr Hwch a'r Tshaen, a'i fod i'w glywed yn aml, ac i'w weled weithiau, yn y dyddiau hyn ar lannau Cell. Yn 1925 adroddodd Mr. J. B., Aberystwyth, wrthyf ei fod ef un tro pan oedd yn ieuanc yn marchogaeth adref yn lled hwyr ar y nos, a phan ddaeth ar gyfyl afon Cell, i'r ceffyl wylltio drwyddo a rhuthro carlamu fel peth gwallgof onid oedd, pan gyrhaeddodd adref, yn crynu fel dail y coed tan wynt, ac yn foddfa o chwys. Taerai pawb a wybu am yr helynt mai gweled yr Hwch a'r Tshaen a wylltiodd y ceffyl. Ni welodd Mr. J. B. yr Ysbryd, ond credai yn sicr weled o'r ceffyl rywbeth anarferol ac anweledig iddo ef.

Yn 1923 rhoes Mr. T. Richards, ysgolfeistr Pont-ar-Fynach, hanes yr Ysbryd hwn, ynghyda'i esboniad ef ei hun ar y dirgelwch. Dywedai nad

  1. Welsh Folklore and Folk Custom, T. Gwynn Jones (1930), td. 36-37.