Tudalen:Coelion Cymru.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y cwbl namyn dyfais y mwynwyr i dwyllo swyddogion y gwaith y gweithient ynddo. Hen arfer y mwynwyr, ac yn arbennig ar nos Wener, ydoedd myned i'r lefelydd neu i lawr y siafft am ddeg y nos a phylu'r ebillion, ac yna dianc adref tua deuddeg o'r gloch. Yr Hwch a'r Tshaen, yn ôl yr esboniad, ydoedd y mwynwyr yn llusgo cadwyni dur a rhoddi ar led mai sŵn ysbryd oedd eu sŵn, a thrwy hynny ddychrynu'r swyddogion rhag eu gwylio a'u dal. Eithr gŵyr y sawl a'u hadnabu fod yr hen gapteniaid eu hunain yn rhy fedrus yn y grefft o dwyllo i fod yn wrthrychau twyll eu gweithwyr.[1] Y mae gennyf hefyd gyfaill hirben yn Aberystwyth sydd â'i fedr i esbonio yn fawr. Nid oedd yr Hwch a'r Tshaen, meddai ef, namyn mochyn byw 'yn y cnawd.' Megid llawer o foch a'u gollwng i bori mes tan y derw ar lannau Cell, a rhag crwydro ohonynt yn rhy bell rhoddid llyffethair haearn ar eu traed. Yn y nos, ar ôl eu digoni, llusgai'r moch eu traed rhwymedig i gyfeiriad eu cartref, a pheri sŵn a greodd Ysbryd. Dyna fodd yr hynafiaid hwythau o esbonio dirgeledigaethau pan grëwyd ofergoelion.

YSBRYD PLAS GWYNANT (BEDDGELERT). Y mae'r plas hwn yn un gwych, a'i safle yn odidog, ac nid yw nepell o Lyn Dinas. Ni phreswyliai neb yn y tŷ yn hir oherwydd eu dychrynu gan Ysbryd. O haf 1850 hyd ddiwedd haf 1853 bu'r Athro J. A. Froude yn byw ynddo. O dro i'w

  1. Welsh Gazette, Mai 23, 1923.