Tudalen:Coelion Cymru.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penfro, a ddaethai i'r ardal ynglŷn â'r gweithfeydd mwyn plwm. Priododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ferch i William Herbert, a meddiannu'r Hafod yn 1783. Tynnodd ef yr hen dŷ i lawr ac adeiladu plas newydd, a chasglu i'w lyfrgell fawr lawer o drysorau llenyddiaeth y wlad hon a'r Cyfandir. Ond yn 1807, ar y degfed o Fawrth, llosgwyd y plas, a bernir golli ohonom fel cenedl lawer o lawysgrifau amhrisiadwy. Aeth Johnes ati eilwaith i adeiladu plas rhagorach na'r un a losgwyd, a rhoddi ynddo wasg argraffu gyffelyb i wasg Gregynog.

Yr oedd i'r Hafod ei fwgan, a rhydd Lewis Morris, Môn, ei hanes yn fanwl yn un o'i lythyrau. Ni fu erioed ysbryd mwy aflonydd a direidus. Cariai gerrig i ystafelloedd y tŷ, hyd yn oed liw dydd; symudai o'u lle fyrddau a choffrau trymion; cipiai ganhwyllau o ddwylo'r teulu, a chusanai yn y tywyllwch ferched a meibion. Galwyd y dyn hysbys. "Fe fu conjuror o Sir Frycheiniog yno yn ceisio gostwng yr ysbryd, ond fe ballodd y Brych a rhoi canpunt iddo am ei boen, 'bid rhyngoch i ag ef,' ebr hwnnw,"[1]

Gwahaniaetha'r Henadur John Morgan, Ystumtuen, beth oddi wrth Lewis Morris yn yr hanes a rydd ef o'r un stori. Yn ôl Mr. Morgan, tynnodd y dewin gylch cyfaredd o'i amgylch ei hun, ac agor ei lyfr dewino, gan orchymyn yr ysbryd i'r cylch.

Ymddangosodd yntau ar ffurf tarw nwydwyllt, ac

  1. The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris, of Anglesey, John H. Davies (1909), Vol. II., td. 153-54.