eilwaith ar ffurf ci mawr a milain, ac wedyn ar ffurf gwybedyn a disgyn ar y llyfr dewino agored. Ar drawiad caeodd y dewin y llyfr a charcharu'r ysbryd. Crefai'r truan barus am ei ryddid, ac wedi ei hir boeni yn ei gaethiwed, caniatawyd iddo ollyngdod o'r llyfr a'r cylch ar yr amod iddo fyned tan Bont-ar-Fynach a thorri twnnel drwy'r graig â hoelen clocsen a morthwyl wns o bwysau. Cred rhai y clywir yn awr, pan fo'r nos yn dawel, sŵn ergydion gwan y morthwyl bach.
Y mae'r stori a ganlyn beth yn wahanol i'r rhai a gofnodwyd eisoes. Gan y Parchedig John Humphreys (Wmffre Cyfeiliog) y cefais hi.
"Mewn tŷ hynafol, a thipyn yn urddasol o ran ei faint a'i ffurf, yn ardal Tŷ Cerrig, Sir Drefaldwyn, trigai gynt ŵr o bwys. Ef ydoedd gwarcheidwad y tlodion yn y gymdogaeth. Claddasai ei briod a chedwid ei dŷ gan wraig barchus o'r enw Marged. Ganddi hi y cafodd fy mam yr hanes, er ei fod yn ddigon hysbys yn yr ardal. Llosgasai'r gŵr hwn ewyllys olaf ei wraig a gwneuthur un a oedd yn fwy ffafriol iddo ef ei hun. Dywedir iddo ar ôl ei gwneud dynnu'r papur rhwng gwefusau ei briod er mwyn gallu dweud, os byddai achos, i'r geiriau fod yn ei genau hi. Rhoes y pin ysgrifennu yn ei llaw farw ac ysgrifennu ei henw. Dyna'r weithred annheilwng. Ond ni chafodd lonyddwch i'w feddwl nac i'w gorff tra fu byw. Arferai ewythr i mi, R.R. o bentref Comins Coch, weithio i'r dyn hwn, ac un hwyrnos gaeaf, tra gweithiai fasged wrth y tân, agorodd drws y gegin megis ar