Tudalen:Coelion Cymru.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddamwain. Gan ei bod yn oer caeodd fy ewythr ef, ond nid cynt yr eisteddodd nag yr agorodd y drws eilwaith. Caeodd ef drachefn. Daeth y forwyn i'r gegin, ac agorodd y drws y drydedd waith. "Yn enw'r annwyl," meddai f'ewythr, "meddyliais imi gau'r hen ddrws yna'n ddigon ffast." "O," meddai hithau, "waeth i chi heb boeni, y mae o'n agos, mi wn." "Y fo," meddai yntau, "Pwy fo?" " O, meistr. Fel hyn y mae pan fydd o'n dod tuag adre', y mae'r drysau yn agor a chau a chlecian, ac yn aml daw yntau i mewn wedi ei orchuddio â llaid, ac yn gwaedu weithiau. A dyma i chi beth rhyfedd. Yr oedd ganddo gwmni yma i de un diwrnod, a pharodd i mi roddi llestri te gore meistres ar y bwrdd, ond pan euthum i'r cwpwrdd a cheisio tynnu'r llestri allan, yr oedd dwy law yn cydio ynddynt ac ni allwn eu symud o'u lle."Yn fuan wedyn wele'r gŵr yn cyrraedd, ac yn ymddangos fel pe bai wedi ei dynnu trwy'r drain. Credid y stori hon yn ardal Tŷ Cerrig pan oeddwn i'n fachgen."

Dywaid Mr. J. Breese Davies fod yn Ninas Mawddwy draddodiad cyffelyb i'r uchod ynglŷn âg "Ysbryd y Castell." Amaethdy tua thair milltir o'r Ddinas ydyw'r Castell. Tua'r flwyddyn 1840, preswyliai ynddo un o'r enw Thomas Jones a'i briod—ail wraig. Yr oeddynt yn 'dda arnynt,' ond eiddo'r wraig oedd y cyfoeth, a threfnodd i'w roddi i'w pherthynasau ei hun. Eithr pan glafychodd a marw, gwnaeth Thomas Jones ewyllys newydd yn sicrhau iddo ef ei hun yr