gweddïodd am ymwared. Yn sydyn clywai garlamu march o'i ôl, ac yna gweled gŵr dieithr yn marchogaeth ac yn cydsymud ag ef. Gwelodd y dyn â'r cryman yntau'r gŵr dieithr a'i farch, a throdd yn gyflym i'r mynydd a ffoi. Cyfarchodd John Jones ei gydymaith mewn Cymraeg a Saesneg, ond ni chafodd ateb, ac yn fuan a sydyn diflannodd y gŵr dieithr.[1]
YSBRYD DYN BYW. Yn fy ymchwiliadau, cyfarfûm o dro i'w gilydd ag amryw a gredai weled ohonynt ysbrydion dynion byw. Yn ystod rhan gyntaf fy nhymor yn Aberystwyth, rhwng 1920 a 1923, a Miss Roberts, Bont Goch, a minnau yn ymgomio un prynhawn am hen goelion yr ardal, gofynnais iddi a welodd hi ysbryd yn ystod ei hoes faith o bedwar ugain mlynedd. Atebodd iddi weled llawer o ysbrydion ac y gwelai hwy o hyd, eithr mai ysbrydion dynion byw oeddynt i gyd, ac na welodd erioed ysbryd dyn marw. Rhyw hanner milltir o Bont Goch—sydd ar y mynydd, chwe neu saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth—y mae plas bychan o'r enw Cefn Gwyn sy'n feddiant i'r Gilbertsons ers rhai cenedlaethau. Pan ddaeth y plas i feddiant y Parchedig Lewis Gilbertson, a oedd yn offeiriad yn Lloegr, gofelid am y tŷ yn absenoldeb y teulu gan Miss Roberts. Treuliai'r teulu fisoedd yr haf bob blwyddyn yn y Cefn Gwyn; ac yn ystod un o'r gwyliau hyn gwelodd yr hen wraig, Miss Roberts, ysbryd yr
- ↑ Brilish Goblins, Wirt Sikes (1880), td. 174-75,