Tudalen:Coelion Cymru.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

offeiriad. A'r drws tan glo, un canol nos, gwelodd ef yn ei hystafell. Symudodd yn araf a thawel drwy'r ystafell, yn ôl a blaen, amryw weithiau, ac yna diflannu.

Y LADI WEN. Hanner y ffordd rhwng Taliesin a Thre'rddôl y mae'r Lefel Fach, a'i genau yn dyfod i'r ffordd fawr. Credid yn gryf pan oeddwn i'n hogyn y trigai 'Ladi Wen' yn y lefel, ac y deuai allan pan ddelai tywyllwch, a chydgerdded yn fonheddig â gwahanol bersonau. Ni ddywedai air wrth neb, ac ni allai neb gan faint y braw lefaru wrthi hithau. Caewyd genau'r Lefel Fach pan safodd gwaith mwyn Llain Hir, a chollwyd y Ladi Wen. Bûm yn credu ynddi cyn gryfed â neb pan oeddwn yn ieuanc, ond wedi imi dyfu i fyny a chrwydro mannau poblog, marweiddiodd fy ffydd. Eithr ni allaf eto yn awr fyned heibio i'r Lefel Fach heb feddwl am y Ladi Wen, ac nid oes odid neb yn y ddau bentref heddiw na ŵyr amdani.

ADEILADU PONT. Y mae'r stori am ysbryd yn adeiladu pont tros afon yn adnabyddus i wahanol rannau o Gymru a gwledydd eraill. Awgrymir y stori gan yr enw, Pont-y-gŵr-drwg, a daflwyd tros Fynach, yng ngogledd Ceredigion. Collodd Megan, hen wraig Llandunach, ei buwch, ac o chwilio'n hir gwelodd hi y tu hwnt i'r afon ddofn, ond nid oedd fodd i'w chyrchu. A hi yn malu meddyliau yn ei phryder, daeth i'w hymyl ŵr bonheddig, a chynnig adeiladu pont tros yr afon